English

Gerddi

Nid yw gerddi Plas Brondanw mor enwog â Phortmeirion, ond dyma gampwaith mwyaf rhyfeddol Clough ym marn llawer.

Ac yntau’n swatio yng nghanol copaon mynyddoedd, Plas Brondanw yw un o gyfrinachau gorau Gogledd Cymru. Er ei fod yn llai enwog na phentref a gerddi Portmeirion, mae llawer o’r farn mai gerddi rhestredig Gradd I Plas Brondanw yw creadigaeth bwysicaf Clough Williams-Ellis.

Aeth Syr Clough ati i greu tirwedd gerddi unigryw ac arbennig sy’n cynnig cyfres o olygfeydd godidog a rhamantaidd o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r gerddi wedi’u gosod ar ffurf cyfres o ystafelloedd caeëdig a gysylltir gan olygfeydd echelinol sy’n arwain at gopaon yn y pellter. Oddi mewn i ystafelloedd y gerddi ceir darnau o gelf a cherfluniau anarferol. Mae nifer ohonynt yn weithiau pensaernïol a achubwyd gan Clough mewn gwerthiannau adfer.

Ac yntau wedi’i ysbrydoli gan erddi’r Eidal o gyfnod y Dadeni, mae dylanwad pensaernïol cryf i’w weld ar y gerddi; waliau cerrig, tocwaith, pyllau, ffynhonnau a rhodfeydd coed sy’n tywys y llygad at y dirwedd fenthyg ddramatig y tu hwnt i’r gerddi.

Mae’r nodweddion eraill yn cynnwys llwybr coetir â llu o nodweddion trawiadol wedi’i leoli ym mhen pellaf rhodfeydd coed hardd, rhaeadr ysblennydd a phwll wedi’i greu mewn hen chwarel. Daw’r llwybr i ben wrth ymyl ffug-dŵr a adeiladwyd i ddathlu priodas Clough ym 1915, lle ceir golygfeydd 360° godidog o’r mynyddoedd a’r môr.

Nid gardd yn llawn blodau lliwgar neu forderi iraidd mo Plas Brondanw – yn hytrach, mae’n ardd sydd wedi’i seilio ar strwythur ffurfiol a golygfeydd bwriadol o’r mynyddoedd oddi amgylch. Felly, er bod mwy o liwiau i’w gweld yn ystod misoedd yr haf, nid yw naws yr ardd yn newid trwy’r tymhorau. Strwythur mawreddog y gwrychoedd, y tocwaith a’r coed (mae gennym Quercus Ilex hynod drawiadol sydd dros 200 oed), y bensaernïaeth a’r golygfeydd benthyg o’r dirwedd oddi amgylch – dyma’r nodweddion sy’n gwneud yr ardd hon yn bwysig. Addurniadau’n unig yw’r blodau.

Bydd yr elw a’r rhoddion i gyd yn mynd tuag at gynnal a chadw’r gerddi.

Bydd yr ardd ar agor 10am – 4pm trwy’r caffi yn ystod misoedd yr haf, a bydd ar agor yn ystod y gaeaf trwy ddefnyddio blwch rhoddion. Pris mynediad £5.50 Rhodd Cymorth, £5 Safonol, Plant £1.

Ceir digon o leoedd parcio dafliad carreg o’r ardd. Cewch ad-daliad yn y caffi ar ôl gwario £2.00 neu fwy (misoedd yr haf yn unig). Ceir mannau parcio i’r anabl wrth y caffi.

Nid ydym yn caniatáu cŵn yn y gerddi na’r caffi, ond mae croeso i gŵn ufudd ar dennyn fynd i’r ardd goetir. Gofynnwn i berchnogion cŵn lanhau ar ôl eu cŵn.

Lleolir Gerddi Plas Brondanw ym Mharc Cenedlaethol Eryri ger pentref Garreg, Llanfrothen, Gwynedd, 5 milltir o Borthmadog. Dilynwch yr arwyddion brown.

Gerddi Plas Brondanw Gardens
Llanfrothen
Gwynedd
LL48 6SW

Ffôn: 01766 772772
E-bost: enquiries@plasbrondanw.com